SEARCHES FAMILY TREES MAILING LISTS MESSAGE BOARDS

 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

Cynghrair Cenedlaethol Cymru
Adran 5 Gogledd
Ionawr 5ed 2008
Wrecsam 0 Pwllheli 29

 

Adroddiad o'r gêm oddiar gwefan Clwb Rygbi Wrecsam.

Gwelwyd cyfuniad o fethiant i drosglwyddo pwysau yn bwyntiau ynghyd a gallu a chyflymdra Pwllheli tu ôl i’r sgrym yn costio’n ddrud i Wrecsam wrth i’r tîm golli am y tro cynta'r tymor hwn. Golyga'r golled hon fod y ddau dîm yn cyfnewid safleoedd yn y tabl.Mae Pwllheli’n awr un pwynt ar y blaen gyda gêm mewn llaw, safle ddylai sicrhau dyrchafiad yn ôl i Adran 4 o’r Gynghrair gan adael Wrecsam i frwydro am yr ail safle gyda Bethesda a Bro Ffestiniog.

Roedd pac Wrecsam lawer cryfach na’r ymwelwyr gyda’r clo Mike Jones yn enwedig yn sefyll allan yn ei gêm gyntaf yn ôl yn dilyn anaf difrifol. Y tîm cartref gafodd gyfle i agor y sgorio yn dilyn cic gosb yn erbyn Pwllheli am gamsefyll. Ar ôl 11 munud. Yn anffodus methodd y maswr, Richard Lloyd gic gweddol hawdd a bu’n rhaid i Wrecsam amddiffyn am gyfnod wrth i Bwllheli ddod fwy i mewn i’r gêm.

Deg munud yn ddiweddarach ac o fewn 22 y tîm cartref trosglwyddwyd y bêl i David Ll Williams. Llwyddodd i ffug basio gan agor bwlch i fynd drosodd i sgorio pwyntiau agoriadol y gêm o dan y pyst. Syndod oedd gweld Elgan Rowlands yn methu’r gic hawdd.

Daeth Wrecsam yn ôl yn gryf gyda’r bachwr, John Gill a’r flancyr, Kerry Powell yn amlwg wrth i bac Wrecsam gampio yn 22 Pwllheli o’r cae. Fe ddylai’r tîm fod wedi sgorio cais ar ddau wahanol achlysur wrth i sgrym Pwllheli gael ei wthio’n ôl, ond drwy or-gymlethu pethau gwelwyd yr holl ymdrech yn mynd yn ofer.

Yn nesaf gwelwyd cyfnod o Bwllheli ar eu gorau gyda’r cefnwyr talentog yn dangos doniau trafod ardderchog a dim ond taclo grymus stopiodd yr ymwelwyr rhag sgorio ymhell. Cafodd Wrecsam gyfle i leihau’r diffyg munud cyn yr egwyl wrth i Bwllheli gael eu cosbi am gamsefyll ond gwnaeth Lloyd gowdal llwyr o’r gic.

Yn syth o’r ail gychwyn ychwanegodd Pwllheli at eu mantais gyda chic lwyddiannus Elgan Rowlands o lawn 30 medr. Codwyd y tempo ymhellach gan yr ymwelwyr gydag ymosodiadau digyfaddawd o fewn 22 Wrecsam ac ychwanegwyd at y sgôr pan dorrodd Meilir Hughes yn rhydd o gefn sgarmes i sgorio yn ddidrafferth o dan y pyst. Aeth trosiad Elgan a’r sgôr i fyny i 15-0.

Er mawr glod i Wrecsam fe lwyddwyd i ffrwyno ‘ychydig ar ymosodiadau Pwllheli ac fe ddylai’r tîm cartref fod wedi sgorio ar ôl 65 munud gyda gwthiad grymus arall tuag at lein Pwllheli. Methodd Keir Harding a chael pwysau ar y bêl a ffrwynwyd symudiad addawol rhwng Simon Williams a Dan Cheesebrough gan amddiffyn cadarn a disgybledig Pwllheli.

Yn y munudau terfynol a thîm Wrecsam i weld yn blino cododd Pwllheli eu gêm unwaith yn rhagor a llwyddo i sgorio dwywaith yn y 3 munud. Rhuthrodd y bachwr, Dafydd Myrddin i mewn yn dilyn llinell a sgoriodd David Ll Williams ei ail gais gyda rhediad 80 medr i sgorio o dan y pyst. Cafodd Williams y cyfle i ddod a’r sgorio i ben gyda’r trosiad.

Roedd hyfforddwr Wrecsam, Russell Penrhyn Jones yn amlwg yn siomedig gyda’r canlyniad ond yn ddigon bodlon cydnabod fod Pwllheli’n well tîm na Wrecsam. “Mae Pwllheli’n lawer mwy clinigol na ni ac mae’r doniau sydd ganddynt yn rhoi mwy o opsiynau i’w chwarae.” Mae’n rhaid fodd bynnag ei fod yn fodlon yn y modd y brwydrodd ei dîm er na ddaeth y pwyntiau roedd y perfformiad yn ei haeddu.


Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006


Census Records | Vital Records | Family Trees & Communities | Immigration Records | Military Records
Directories & Member Lists | Family & Local Histories | Newspapers & Periodicals | Court, Land & Probate | Finding Aids