SEARCHES FAMILY TREES MAILING LISTS MESSAGE BOARDS

 
  Hafan
  Hafan
 
  Chwaraeon
  Criced
  Hoci
  Peldroed
  Rygbi
 
  Hanes
  Dechreuad
  Blynyddoedd Cynnar
  1961-1970
  1971-1980
  1981-1990
  1991-2000
  2001-ymlaen
  Galeri Lluniau
 
  Gwybodaeth
  Cyswllt
  Cymorth
 

Cynghrair Cenedlaethol Cymru
Adran 5 Gogledd
Ionawr 26ain 2008
Y Trallwng 3 Pwllheli 29

 

Cyfieithiad adroddiad o'r gêm oddiar gwefan Y Trallwng.

Colled arall, y tro hwn yn erbyn y tîm ar frig y tabl, Pwllheli. Serch hynny gwelwyd arwyddion calonogol wrth i Pŵl fwynhau mwyafrif o’r meddiant a thiriogaeth ond methu a rhoi pwyntiau ar y bwrdd i gydfynd a’r goruchafiaeth.

Cafodd Y Trallwng siawns i fynd ar y blaen môr fuan a’r ail funud ond methu wnaeth y capten gyda’r gic cosb yn y gwynt cryf. Gyda’r gwynt ar eu cefnau cafwyd cicio deallus gan faswr Y Trallwng i gadw Pwllheli ar y droed ôl. Dangosodd Pwllheli eu gallu i redeg y bêl ar sawl achlysur fodd bynnaf ac o symuniad ddechreuodd yn ddyfn yn eu hanner eu hunain sgoriwyd pwyntiau cynta’r gêm ar ôl hanner awr, a hynnu’n erbyn llif y chwarae.

Dau funud yn ddiweddarach ymestynwyd mantais Pwllheli i 0-10 gyda ail gais wrth i’r cefnwyr redeg y bêl eto. Toedd yna fawr i ddewis rhwng y ddau set o flaenwyr ond roedd dawn Pwllheli’n amlwg bob tro y daeth pêl i law y cefnwyr. O fewn eiliadau i’r chwiban am hanner amser cafodd Y Trallwng ergyd greulon pan sgoriodd yr ymwelwyr eu trydedd cais i symud y sgôr i 0-15.

Er fod y gwynt yn eu hwynebau dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yr un modd a’r cyntaf, yn sicrhau y rhan fwyaf o’r meddiant ond yn methu a thorri amddiffyn cadarn Pwllheli. Ar ôl sugno’r pwysau am gyfnod helaeth ychwanegodd Pwllheli at y sgôr yn dilyn toriad o’u llinnell eu hunain ar ôl 27 munud gyda tros gais i sicrhau’r pwynt bonws.

Sgoriodd Y Trallwng eu hunig bwyntiau ar ôl hanner awr cyn i Bwllheli ladd unrhyw obeithion oedd gan y tîm cartref gyda throsgais arall i wneud y sgôr terfynol un 3-29.

Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006

Census Records | Vital Records | Family Trees & Communities | Immigration Records | Military Records
Directories & Member Lists | Family & Local Histories | Newspapers & Periodicals | Court, Land & Probate | Finding Aids