|
Adroddiad Rob Griffiths o'r Daily Post.
Cadwodd PWLLHELI eu record cant y cant yn Adran 5 o'r Gynghrair
ar draul Wrecsam i symud i frig y tabl. Ffordd Bryn Estyn oedd
lleoliad gêm fawr y diwrnod ac yn wir y tymor hyd yma gyda’r
ddau dîm yn chware i amddiffyn eu record di-golli. Llwyddodd
Pwllheli i guro a sicrhau pwynt bonws gyda sgôr o 29-0 i symud
pwynt ar y blaen o’u gwrthwynebwyr.
Roedd
hyfforddwr Wrecsam, Russell Penrhyn-Jones yn hollol onest yn ei
ddadansoddiad i’w dîm gael eu haeddiant. “ Pwllheli oedd y tîm
gorau, roeddynt lawer mwy clinigol ac yn meddu ar fwy o opsiynau
na ni. Mae gêm Wrecsam yn gyfyngedig i chwarae un ffordd yn unig
- a hynny yw ceisio ennill gemau drwy nerth a chryfder y pac.
Dwi’n trio fy ngorau i gael yr hogia i agor y gêm allan.”
meddai.
“Mae
timau megis Pwllheli a Bethesda gyda rhywbeth ychwanegol i’w
gynnig, mwy o opsiynau a’r gallu i agor y gêm allan ac wedyn
cadw pethau’n dyn fel bo angen. Tydi’r gallu i gystadlu gyda
thimau fel hyn ddim ganddo ni. Mae’n rhaid i ni ddechrau
cynhyrchu chwaraewyr sy’n gyfforddus yn trafod y bêl. Chwarae
teg i Bwllheli roedden nhw’n wych heddiw a dwi’n sicr y cawn nhw
ddyrchafiad i Adran 4 a dal eu tir y tymor nesa. Mae’r gêm wedi
rhoi pethau mewn cyd-destun cyn belled ag yr ydym ni yn y
cwestiwn.”
Roedd
Pwllheli ar ben eu digon i ddod gartref gyda buddugoliaeth ond
roedd hyfforddwr y blaenwyr, Arthur Williams yn bendant na does
dim wedi’i gyflawni eto.
Pwllheli were delighted to come away from one of their main
rivals with a victory, but forwards coach Arthur Williams was
adamant his side had done nothing yet. “ Mi ddaethom i Wrecsam
heddiw yn chwilio am fuddugoliaeth ac rydan ni’n falch iawn o
fynd yn ôl adra gyda phwynt bonws yn ogystal. Mae 'na 11 gêm ar
ôl i’w chwarae ac mi fydd rhaid i ni barhau i ganolbwyntio os am
gyrraedd y nod. Mae yna dimau da iawn yn yr Adran hon ac mae’r
anodd cael unrhyw fath o ddilyniant fel y mae’r gemau wedi’u
rhaglennu. Mae yna lawer o ffordd i fynd cyn ennill y Gynghrair.”
Roedd
Penryn-Jones yn agos iawn i’r marc yn ei ddadansoddiad o’r gêm.
Cafodd Wrecsam cyfleoedd di-ri i groesi llinell Pwllheli ond
methwyd a chymryd mantais o’r oruchafiaeth oedd ganddyn nhw yn y
pac.
Wrecsam
gafodd y gorau o’r meddiant - a hynny o dipyn go lew - ond
methwyd a dad-gloi amddiffyn cadarn Pwllheli. Methwyd a chanfod
y llinell gais yn yr ail hanner hyd yn oed pan oedd Pwllheli’n
brin o Chris Studt anfonwyd i’r gell cosb am gam-sefyll cyson.
Ac i daflu halen ar y briw sgoriodd Pwllheli ddau gais hwyr yn y
gêm i sicrhau’r pwynt bonws.
Roedd
hi’n ddiwrnod diflas iawn i’r tîm cartref bron o’r cychwyn wrth
i’r maswr Richard Lloyd fethu cic am y pyst ar ôl 11 munud. O
fewn 10 munud roedd Pwllheli wedi agor y sgorio wrth i ffug bas
y cefnwr, David Ll Williams dorri’r amddiffyn a’i alluogi i
sgorio rhwng y pyst.
Daliodd
Wrecsam i ymosod yn yr un modd ond heb lwyddiant. Yn dilyn
hanner amser a gyda’r gwynt ar eu cefnau Pwllheli gymrodd
fantais i fynd ymhellach ar y blaen a gwneud y gêm yn saff.
Sgoriodd y maswr, Elgan Rowlands gic cosb cyn i Meilir Hughes
sgorio’r cais tyngedfennol i dorri i ffwrdd o sgarmes a rhedeg
drwodd yn ddiwrthwynebiad.
Gyda
Wrecsam yn prysur anobeithio daeth camgymeriadau i mewn i’w gêm
a gydag amser bron ar ben aeth y bachwr, Dafydd Myrddin drosodd
am drydedd cais y tîm, cyn i David Ll Williams sgorio cais
orau’r gêm wrth redeg 80 medr i selio’r pwynt bonws a’r trosiad.
Cynlluniwyd gan: Keith Parry Hawlfraint 2006
|