Y bardd trwm dan bridd tramor, y dwylaw
Na ddidolir rhagor;
Y llygaid dwys dan ddwys ddôr,
Y llygaid na all agor!
Wedi ei fyw y mae dy fywyd, dy rawd
wedi ei rhedeg hefyd;
daeth awr it fynd i'th weryd,
A daeth i ben deithio byd.
Tyner yw'r lleuad heno tros fawnog
Trawsfynydd yn dringo:
Tithau'n drist a than dy ro,
Ger y Ffos ddu'n gorffwyso.
Trawsfynydd! Tros ei feini trafaeliaist
Ar foelydd Eryri;
Troedio wnest ei rhedyn hi,
Hunaist ymhell ohoni.
Ha frodyr! dan hyfrydwch llawer lloer,
Y llanc nac anghofiwch;
Canys mwy trist na thristwch
Fu rhoddi'r llesg fardd i'r llwch.
Garw a gwael fu gyrru o'i gell un addfwyn,
Ac o noddfa'i lyfrgell;
Garw fu rhoi 'i bridd i'r briddell,
Mwyaf garw oedd marw ymhell.
'Gadael gwaith a gadael gwy^dd, gadael ffridd,
Gadael ffrwd y mynydd;
Gadael dôl a gadael dydd,
A gadael gwyrddion goedydd.
Cadair unig ei drig draw! Ei dwyfraich,
Fel pe'n difrif wrandaw,
Heddiw estyn yn ddistaw
Mewn hedd hir am un ni ddaw.
|
. |